Rhyw drysorau heb eu mesur, Rhyw drysorau heb ddim rhi', Rhyw ddyfnderoedd heb ddim gwaelod, Sy'n dy addewidion Di; Crynu'r wyf, ac ymafaelyd, Glynu'n galed wrth dy air; F'enaid, tra fwyf ar y ddaear, Dyna'r unig fan eu cair. Os gwaredi fi o'm cyfyngder Ac os sefi ar fy rhan, Os gostegi rym y storom, Os cynheli fi i'r lan; Ti gei 'nhafod, Ti gei 'nghalon, Ac a feddwyf yn y byd, Ti gei'r clod, a Thi gei'r moliant, Ti gei'r enw it i gyd.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Ar dy enw mae'r cenhedloedd Mae rhyw foroedd o drugaredd |
Some treasures without measure, Some treasures without any number, Some depths without any bottom, Are in Thy promises; Trembling I am, and wrestling, Sticking tightly to thy word; My soul, while I am on the earth, This is the only place they are got. If thou deliver me from my straits And if thou standest on my behalf, If thou calm the force of the storm, If thou holdest me up; Thou shalt get my tongue, Thou shalt get my heart, And what I possess in the world, Thou shalt get the acclaim, and Thou shalt get the praise, Thou shalt get the name all for Thyself.tr. 2018 Richard B Gillion |
|